Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Rhagolwg Cyllideb Cymru 2022: Brecwast Briffio

Dyddiad: Dydd Llun 5 Rhagfyr 2022

Amser: 09.00 - 10.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mewn cyfnod o ansicrwydd di-gynsail, mae rhagolygon economaidd a chyllidol Cymru wedi cymylu’n sylweddol. Yn ogystal â’r wasgfa ar gyllidebau aelwydydd a safonau byw, mae chwyddiant uwch wedi erydu gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru mewn termau real, gyda’r posibilrwydd o doriadau pellach ar y gorwel. Wrth i drywydd polisi cyllidol Llywodraeth y DG ddod yn gliriach, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd ar lefelau gwariant cyhoeddus a threthi datganoledig. Cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, ymunwch â thîm Dadansoddi Cyllid Cymru (DCC) ar gyfer trafodaeth o adroddiad newydd fydd yn dadlennu’r rhagolwg ar gyfer Cyllideb Cymru a’r heriau sydd o’n blaenau.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr