Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Darlith Goffa Sefydlu Betty Campbell

Dyddiad: Dydd Iau 27 Hydref 2022

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Y siaradwr gwadd: Yr Athro Olivette Otele, Athro Neilltuol Etifeddiaeth a’r Atgof o Gaethwasiaeth yn SOAS, Prifysgol Llundain. Cynhelir Darlith Goffa Sefydlu Betty Campbell mewn partneriaeth â Senedd Cymru, Menywod Hynod Cymru a Chyngor Caerdydd fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon ym mis Hydref yn y Senedd eleni. Mae Darlithoedd Coffa Sefydlu Betty Campbell yn anrhydeddu gwaith prifathrawes ddu gyntaf Cymru, a gaiff ei chofio hefyd am hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn frwd. Yn y ddarlith ystyrir y rhannau o fywyd Cymru a thu hwnt yr oedd yr addysgwr arloesol a’r arweinydd cymunedol yn gweithio i’r gwella a’u hyrwyddo.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr