Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan – Trwy Ein Llygaid

Dyddiad: Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 i ddydd Sadwrn 4 Chwefror 2023

Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae Trwy Ein Llygaid yn rhannu straeon pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, mewn ffotograffau a fideos. Mae ein harddangosfa yn herio canfyddiadau a stereoteipiau, drwy amlygu rolau a gweithgareddau pobl ag anableddau dysgu yn ein cymunedau – rolau a gweithgareddau o bwys mawr. Ry’n ni’n dathlu ein llwyddiannau ym meysydd cyflogaeth, gwirfoddoli, chwaraeon ac addysg, yn ogystal â meysydd eraill o fywyd.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr