Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Pweru Moroedd Iach (Powering Healthy Seas)
Dyddiad: Dydd Mercher 5 Hydref 2022
Amser: 18.00 - 20.00
Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Bydd y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac RSPB Cymru yn cynnal digwyddiad gyda’r nos a fydd yn canolbwyntio ar wneud y gorau o foroedd Cymru. Mae amgylchedd morol Cymru yn mesur tua 32,000 km², sef 35 y cant yn fwy na chyfanswm tir Cymru. Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio’r rôl y gall cynllunio gofodol morol ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng ynni presennol, a hynny gan fynd i’r afael hefyd a’r argyfyngau hinsawdd a natur. Yn ystod y digwyddiad, bydd adroddiad pwysig newydd hefyd yn cael ei lansio, sef: ‘Powering Healthy Seas: Accelerating Nature Positive Offshore Wind’.
Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig.
Noddir gan
- MSS Janet Finch-Saunders
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr