Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Affairs of the Art: Celf Joanna Quinn
Dyddiad: Dydd Llun 1 Awst 2022 i ddydd Mawrth 6 Medi 2022
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Disgrifiad: Mae Affairs of the Art yn dathlu gwaith celf Joanna Quinn o Beryl Productions, cwmni animeiddio sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Sefydlwyd Beryl Productions gan Joanna a’r awdur a’r cynhyrchydd Les Mills yn 1987. Mae’r cwmni yn arbenigo mewn animeiddio cymeriadau wedi’u tynnu â llaw. Cafodd ffilm ddiweddaraf y cwmni, Affairs of the Art, ei henwebu am Oscar yn 2022 yn y categori Ffilm Fer Animeiddiedig Orau. Denodd y ffilm sylw'r cyfryngau ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Yn dilyn ôl-sylliadau o waith Joanna ym mhob cwr o’r byd, hon fydd yr arddangosfa fawr gyntaf o waith celf Joanna yng Nghymru. https://senedd.cymru/ymweld-a-ni/arddangosfeydd/affairs-of-the-art-celf-joanna-quinn/
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr