Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio llyfr ‘The Impact of Devolution’, a gaiff ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mehefin 2022

Amser: 18.00

Lleoliad: Neuadd, Senedd

Disgrifiad: Dyma lansiad y llyfr ‘The Impact of Devolution’, sydd wedi’i olygu gan Jane Williams ac Aled Eirug, a’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae’r casgliad hwn o draethodau yn adolygu cynnydd datganoli yng Nghymru ers 1999, ac yn gydgyfrol i Hunangofiant Rhodri Morgan (2017). Mae’n dadansoddi cynnydd datganoli mewn wyth o’r prif feysydd polisi, sy’n cynnwys iechyd, yr economi, addysg a chynaliadwyedd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr