Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Arweinwyr Digidol: Digidol yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Gwener 24 Mehefin 2022

Amser: 12.30 - 13.30

Lleoliad: Neuadd, Senedd

Disgrifiad: Dod â phobl ynghyd: Arweinwyr Digidol Cymru. Ar ôl dwy flynedd o ddigwyddiadau ar-lein, rydym yn barod i ddod ag arweinwyr digidol ledled Cymru at ei gilydd i ddathlu’r gwaith hynod arloesol sy’n digwydd ym maes digidol yng Nghymru, gan feithrin rhwydweithiau ac annog cydweithio. P’un ag ydych wrth eich bodd yn cwrdd wyneb yn wyneb neu’ch bod yn hoffi gweithio o bell mewn lleoliad sy’n eich siwtio chi, hyderwn y bydd ein digwyddiad i arweinwyr digidol Cymru o ddiddordeb i chi. Ddydd Gwener 24 Mehefin (12.30 - 1.30), rydym yn cynnal digwyddiad hybrid am ddim, sy’n cynnwys: dau leoliad ar gyfer sesiynau wyneb yn wyneb (un yng ngogledd Cymru a’r llall yn ne Cymru); platfform ar-lein; cyfle i rwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb; cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg; a chinio bwffe. Dyma gyfle i ddathlu gwaith arloesol ym maes digidol ledled Cymru, felly rydym yn awyddus i gynnal digwyddiad y gall pawb deimlo’n rhan ohono. Rydym hefyd am arddangos yr holl ddatblygiadau rhagorol yn y maes hwn yng Nghymru, gan

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr