Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Castell Rhiwperra

Dyddiad: Dydd Mercher 25 Mai 2022

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Castell Rhiwperra wedi chwarae rhan fawr yn hanes de-ddwyrain Cymru ond ar hyn o bryd mae'r adeilad yn adfail ac mewn perygl o gwympo. Helpwch Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiwperra i achub Castell Rhiwperra a’r adeiladau a gerddi o’i gwmpas drwy ymgyrchu i'w diogelu er budd y gymuned, ac i sicrhau dyfodol gwell i'n treftadaeth leol werthfawr. Cewch gyfle i weld ein delwedd o ddyfodol posibl i Gastell Rhiwperra gan yr artist Haf Weighton.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr