Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Lloches yn y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022
Amser: 10.00 - 15.00
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Bydd digwyddiad Lloches yn y Senedd 2022 yn ymchwilio i ba mor bell mae Cymru wedi dod ar ei thaith i fod yn Genedl o Loches. Bydd ffoaduriaid, ceiswyr lloches, Aelodau o’r Senedd ac amrywiol sefydliadau sy’n gweithio yn y sector yn dod at ei gilydd ac yn trafod pynciau sy’n berthnasol i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i Aelodau o’r Senedd ddysgu mwy am ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr