Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Mentora o ran Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal
Dyddiad: Dydd Mercher 15 Mehefin 2022
Amser: 09.30 - 17.00
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Mae rhaglen fentora bywyd cyhoeddus pŵer cyfartal llais cyfartal yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r loteri genedlaethol. Mae’n ceisio gwella cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (BAME, Pobl Anabl, LGBTQI+, a Menywod) mewn bywyd cyhoeddus. Mae’r Cynllun yn bartneriaeth groestoriadol rhwng Anabledd Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Stonewall Cymru, a WEN Cymru. Nod y digwyddiad rhwydweithio cyflym hwn yw meithrin cysylltiadau rhwng Aelodau o’r Senedd a chyfranogwyr y rhaglen sy’n ceisio dechrau ym mywyd cyhoeddus Cymru. Bydd y digwyddiad yn caniatáu i’n mentoreion ddysgu gan Aelodau o’r Senedd, a hefyd i adrodd yn ôl i’r Aelodau am rwystrau a phrofiadau pobl o’r cefndiroedd amrywiol hyn wrth iddynt ymgymryd â bywyd cyhoeddus.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr