Digwyddiad

DIGWYDDIAD: 40 Mlynedd o HIV - Y gorffennol, y presennol a’r dyfodol

Dyddiad: Dydd Mercher 15 Mehefin 2022

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Ddeugain mlynedd yn ôl, clywsom am yr achosion cyntaf a nodwyd o'r hyn yr ydym bellach yn ei adnabod fel HIV. Newidiodd hynny y byd am byth, a chollwyd miliynau o fywydau. Ond rydym hefyd wedi gwneud cynnydd meddygol anhygoel ers hynny, sy'n golygu y gellir bellach fyw bywyd hir ac iach gyda HIV. Heddiw, rydym yn dathlu’r cynnydd a wnaed gyda digwyddiad lansio Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV. Mae'r cynllun yn annog profi am HIV, lleihau diagnosis HIV hwyr, symud ymlaen â chyflwyno cyffuriau atal, ailwampio'r systemau gwyliadwriaeth o ran casglu data HIV, a chefnogi pobl sydd â HIV i fyw'n dda. At hynny, dylai'r Cynllun geisio cynyddu'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i unigolion ymgyfarwyddo â diagnosis, cynnig cymorth o ran ymlyniad neu o ran mentrau dychwelyd i ofal. Mae'n nodi cam cadarnhaol arall i gyrraedd y nod eithaf o ddim trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr