Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio arddangosfa ' Tyfu Blodau ar y Dociau’

Dyddiad: Dydd Mawrth 24 Mai 2022

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Disgrifiad: Gan weithio gyda'r artist tecstilau Haf Weighton, mae dwy ysgol o Fro Morgannwg wedi creu gweithiau celf sy'n ymateb i ddarganfyddiadau a wnaeth botanegwr o Gaerdydd 100 mlynedd yn ôl. Roedd Royston Smith yn botanegwr o fri a ganfu blanhigion anarferol yn tyfu yn nociau'r Barri a Chaerdydd yn ystod y 1920au. Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Cogan ac Ysgol Bro Morgannwg wedi myfyrio ar y darganfyddiadau hyn drwy waith celf sy'n cynnwys printiau blodau, cerfluniau llong a ffabrigau crog hardd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr