Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Tyfu Blodau ar y Dociau

Dyddiad: Dydd Llun 23 Mai 2022 i ddydd Iau 7 Gorffennaf 2022

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Disgrifiad: Gan weithio gyda'r artist tecstilau Haf Weighton, mae dwy ysgol o Fro Morgannwg wedi creu gweithiau celf sy'n ymateb i ddarganfyddiadau a wnaeth botanegwr o Gaerdydd 100 mlynedd yn ôl. Roedd Royston Smith yn botanegwr o fri a ganfu blanhigion anarferol yn tyfu yn nociau'r Barri a Chaerdydd yn ystod y 1920au. Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Cogan ac Ysgol Bro Morgannwg wedi myfyrio ar y darganfyddiadau hyn drwy waith celf sy'n cynnwys printiau blodau, cerfluniau llong a ffabrigau crog hardd.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr