Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Derbyniad Airbus yn dyrchafu’r economi yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Mercher 11 Mai 2022

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Airbus: Curiad Calon Economi Cymru. Mae Brychdyn yn em yng nghoron ddiwydiannol Airbus UK. Rydym yn falch fod y byd yn hedfan ar Adenydd Cymru ac rydym am rannu ein cyfraniadau i economi Cymru ag Aelodau o’r Senedd. Fel un o gyflogwyr mwyaf Cymru, sy’n cyflogi mwy na 4,500 o beirianwyr a gweithredwyr gwerthfawr a leolir ym Mrychdyn a 500 o arbenigwyr Seiberddiogelwch yng Nghasnewydd, mae Airbus yn gwario dros £148 miliwn y flwyddyn ar draws cadwyn gyflenwi Cymru ac yn cefnogi 14,300 o swyddi yng Nghymru. Drwy lens asesiad effaith ar yr economi, a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Oxford Economics, edrychwn ymlaen at fod yng nghwmni ein gilydd heno i drafod ein hymrwymiadau parhaus i hybu cyfleoedd yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr