Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Coffáu Gareth Jones

Dyddiad: Dydd Iau 12 Mai 2022

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Digwyddiad i nodi cyfraniad Gareth Jones, newyddiadurwr o Gymru a adroddodd ar yr Holodomor yn Wcráin, y tensiynau yn Ewrop yng nghanol y 1930au, a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen. Roedd Jones, a oedd o’r Barri, yn ieithydd medrus. Ar ôl graddio o Aberystwyth a Chaergrawnt, bu’n gweithio fel cynghorydd materion tramor i David Lloyd George, fel ymgynghorydd i Ivy Lee Associates yn Efrog Newydd, ac fel newyddiadurwr. Gweithiodd yn ddiflino i ddeall materion tramor ac i egluro eu perthnasedd i ddarllenwyr gartref. Treuliodd amser nid yn unig yn ceisio deall digwyddiadau cyfoes yn llawn, ond yn ceisio deall hefyd eu hachosion sylfaenol. Roedd ei ddatgeliadau ynghylch y newyn yn Wcráin a gafodd ei achosi gan fodau dynol yn seiliedig ar y dystiolaeth a welodd ei hun wrth deithio yn y rhanbarth. Dangosodd y datgeliadau hyn raddfa ac erchylltra yr Holodmor i gynulleidfa ryngwladol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr