Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cynhadledd Flynyddol Creu Cymru 2022

Dyddiad: Dydd Mercher 11 Mai 2022

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: 'Tyfu' – Y Camau Nesaf ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru. Nod Cynhadledd Creu Cymru yw dwyn ynghyd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws y celfyddydau perfformio yng Nghymru. Mae'r Gynhadledd yn gyfle i rwydweithio, ymgysylltu a dysgu. Nod y Gynhadledd eleni yw bod yn gyforiog o sgyrsiau egnïol am gyfleoedd a modelau newydd o lwyddiant a chynhwysiant; beth y mae’n ei olygu i bontio o sefyllfa o argyfwng ac adferiad i sefyllfa o ffynnu unwaith eto – yn bersonol ac yn broffesiynol, o unigolion i sefydliadau, i’r sector yn ei gyfanrwydd.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr