Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Arddangosfa ar gyfer Gwirfoddoli Rhyngwladol

Dyddiad: Dydd Iau 4 Tachwedd 2021

Amser: 11.00 - 14.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Nod y digwyddiad yw dathlu ac arddangos gwerth gwirfoddoli rhyngwladol, o ran: creu heddwch ac undod; cyfleoedd i bobl ifanc a meithrin sgiliau cyflogadwyedd; cefnogi nodau polisi allweddol Llywodraeth Cymru (Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang; ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r Byd; Ffyniant i Bawb ac ati). Mae hyn yn cynnwys dangos canlyniadau cymorth Llywodraeth Cymru trwy NVYO ar gyfer gwirfoddoli rhyngwladol i bobl ifanc. Un o’r prif amcanion fyddai galluogi gwesteion i werthfawrogi gwerth creu profiadau gwirfoddoli rhyngwladol i bawb (y gellir eu creu yng Nghymru yn ogystal â thrwy deithio).

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol. Rhaid archebu tocynnau drwy Eventbrite.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr