Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Undo Things Done

Dyddiad: Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021 i ddydd Sul 5 Medi 2021

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae'r Senedd yn falch o groesawu cyflwyniad cloi Undo Things Done, sef arddangosfa deithiol Sean Edwards a grëwyd ar gyfer Cymru yn Fenis / Wales in Venice 2019 fel rhan o Biennale Fenis, yr arddangosfa celfyddydau gweledol fwyaf yn y byd. Mae Undo Things Done yn dechrau gyda phrofiad Edwards o dyfu i fyny ar ystâd gyngor yng Nghaerdydd yn yr 1980au; mae’n dal yr hyn y mae'n ei alw'n amod o 'beidio â disgwyl llawer' ac yn trosi hynny i iaith weledol gyffredin; un sy'n dwyn i gof ffordd o fyw sy'n gyfarwydd i nifer fawr o bobl.

Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/162415582379

Agored i’r cyhoedd: Gellir gweld yr arddangosfa drwy gofrestru ymlaen llaw drwy’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr