Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Eich Llais, Eich Dewis, Eich Dyfodol: Senedd Ieuenctid Cymru (Yn cael ei gynnal yn Gymraeg gyda cyfieithu i Gymraeg)

Dyddiad: Dydd Iau 3 Mehefin 2021

Amser: 17.00 - 18.00

Lleoliad: Digwyddiad ar-lein

Disgrifiad: Ymunwch â Siôn Jenkins, ITV Cymru a phanel o bobl ifanc sydd wedi, mewn sawl ffordd, ymgysylltu gyda phobl ifanc Cymru ar ddemocratiaeth ac yn frwdfrydig dros faterion sy'n bwysig iddyn nhw. Yn sgil lansio ymgyrch etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru a chyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 a 17 oed yn etholiad y Senedd 2021, bydd hwn yn gyfle gwych i drafod statws presennol y berthynas rhwng pobl ifanc a democratiaeth yng Nghymru, yr her fwyaf y mae angen eu goresgyn er mwyn cryfhau'r cysylltiad rhwng democratiaeth a phobl ifanc a phwysigrwydd ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru. Mae croeso i chi anfon cwestiynau atom ymlaen llaw wrth i chi gofrestru ar gyfer sesiwn cwestiwn ac ateb yn rhan o’r digwyddiad.

Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/155759056531

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy gofrestru ymlaen llaw drwy’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr