Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Etholiad y Senedd - ‘Dy Bleidlais gyntaf’ - addas i bobl ifanc (Cyflwyniad yn Saesneg)

Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Mawrth 2021

Amser: 08.50 - 09.10

Lleoliad: Digwyddiad ar-lein

Disgrifiad: Addas i bobl ifanc 14 – 18 mlwydd oed (Blynyddoedd 10-13) Ymunwch â thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd ar gyfer cyflwyniad byw am rôl a phwerau’r Senedd, a sut i bleidleisio. Perffaith ar gyfer gwasanaeth mewn ysgol neu goleg! Yn sgil cyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed yn etholiad y Senedd yn 2021, bydd hon yn sesiwn amhrisiadwy i ennyn diddordeb y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yn y broses etholiadol, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer pleidleisio.

Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/137926067581

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy gofrestru ymlaen llaw drwy’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr