Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Hyfforddi’r Hyfforddwr –‘Y Senedd, etholiadau a fi’ (Cyflwyniad yn Saesneg)

Dyddiad: Dydd Gwener 26 Mawrth 2021

Amser: 11.00 - 11.50

Lleoliad: Digwyddiad ar-lein

Disgrifiad: Yn addas i athrawon uwchradd, darlithwyr coleg neu weithwyr ieuenctid Ymunwch â thîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer y sesiwn hyfforddi’r hyfforddwr arbennig hon pan fyddant yn trafod sut i gyfleu rôl a phwerau’r Senedd a gwaith ei Haelodau i gynulleidfa ifanc, gan gynnwys sut i bleidleisio. Gyda phleidleisiau yn 16 oed yn cael eu cyflwyno yn etholiad y Senedd yn 2021, bydd hon yn sesiwn amhrisiadwy i'r holl addysgwyr sydd am sicrhau bod y rhai sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/137270179803

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy gofrestru ymlaen llaw drwy’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr