Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Dewch i ddadlau: Ffug Etholiad i bobl ifanc - yn addas i bobl ifanc 15-25 oed.(Bydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg a Saesneg)
Dyddiad: Dydd Gwener 26 Chwefror 2021
Amser: 17.00 - 18.15
Lleoliad: Digwyddiad ar-lein
Disgrifiad: Yn addas i bobl ifanc 15-25 oed. Ydych chi'n angerddol dros ddadlau? Wedi mirenio eich sgiliau yn y dosbarth neu tra'n dysgu o adref? Beth am roi cynnig ar ein ffug etholiad i bobl ifanc ar nos Wener y 26ain o Chwefror? Dyma'ch cyfle i greu plaid wleidyddol a chymryd rhan mewn dadl wedi'i chadeirio gan Teleri Glyn Jones, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru Wales.Bydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg a Saesneg gan ddefnyddio cyfieithiad byw. Os ydych chi o dan 18 oed, trwy ymuno â’r digwyddiad hwn, rydych yn cytuno bod gennych ganiatâd rhiant i gymryd rhan.
Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/139629119455
Agored i’r cyhoedd: Os ydych chi o dan 18 oed, trwy ymuno â’r digwyddiad hwn, rydych yn cytuno bod gennych ganiatâd rhiant i gymryd rhan. Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy gofrestru ymlaen llaw drwy’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bost ar cysylltu@senedd.cymru
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr