Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Etholiad y Senedd 2021 – Hyfforddi’r Hyfforddwr (Cyflwyniad yn Gymraeg)

Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Ebrill 2021

Amser: 12.00 - 13.00

Lleoliad: Digwyddiad ar-lein

Disgrifiad: Ar 06 Mai 2021 gwahoddir chi i ddefnyddio eich llais i benderfynu pwy ddylai eich cynrychioli chi a'ch cymuned yn Senedd Cymru. Mae'r sesiwn hon, mewn partneriaeth gydag Y Comisiwn Etholiadol, yn gyflwyniad i system bleidleisio unigryw'r Senedd, y pynciau mae'r Senedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a'r wybodaeth ddiweddaraf am yr etholiad. Bydd y sesiwn yn cynnwys manylion ynghylch: • Y broses etholiadol a dyddiadau allweddol; • Cymhwysedd pleidleiswyr; • Sut i gofrestru i bleidleisio; • Y system bleidleisio sydd ar waith ar gyfer etholiad Senedd Cymru; • Dros beth y mae dinasyddion yn pleidleisio, h.y. y pwerau sydd gan Senedd Cymru; • Ffurfio'r Senedd nesaf; • Rôl Senedd Cymru ac Aelodau’r Senedd. Bydd y sesiwn hefyd yn darparu gwybodaeth i chi ar ble y gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein, fideos a gweithgareddau i’ch helpu i gynnal eich sesiwn eich hun.

Hyperddolen: https://www.eventbrite.co.uk/e/138761275711

Agored i’r cyhoedd: Gellir cofrestru ymlaen llaw drwy glicio’r linc uchod neu drwy gysylltu gydag ein llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy anfon e-bost at cysylltu@senedd.cymru

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr