Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Newid yr anghydbwysedd rhwng y rhywiau - gweithio gyda disgyblion ysgol

Dyddiad: Dydd Iau 30 Ionawr 2020

Amser: 10.30 - 15.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: ‘Mae peirianneg sifil yn yrfa gwerth chweil i bawb’. Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) yn ceisio newid yr anghydbwysedd rhwng y rhywiau am mai nifer gyfyngedig o fenywod sydd i’w cael ym maes peirianneg (ac ym maes peirianneg sifil yn benodol). Mae ICE yn eiriolwr pendant o blaid materion tegwch, cynhwysiant a pharch ac mae’n un o’r prif gyrff yn hyn o beth. Bydd disgyblion o ysgolion yn adeiladu’r Bont i Ysgolion eiconig, o dan arweiniad Peirianwyr Sifil [benywaidd]. Ceir anerchiadau gan bob peiriannydd sifil ar ei gyrfa a pham y daeth yn beiriannydd sifil.

Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig, ond bydd y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr