Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Wedi’i ysgrifennu mewn tywod nid ar garreg: Defnyddio theatr i hyrwyddo dulliau o ystyried y tensiynau sy’n gysylltiedig â diagnosis seiciatryddol a’i ganlyniadau.

Dyddiad: Dydd Mercher 22 Ionawr 2020

Amser: 17.00 - 20.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Nod y prosiect hwn yw cynhyrchu perfformiad theatr sy’n seiliedig ar arsylwadau o asesiadau iechyd meddwl diagnostig a gynhaliwyd at ddibenion ymchwil. Defnyddir y perfformiad fel ffordd o ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl, darparwyr gwasanaethau, a defnyddwyr gwasanaethau ar rôl diagnosis seiciatryddol o ran dylanwadu ar fynediad at wasanaethau a chefnogaeth iechyd meddwl. Bydd y sgript yn cael ei hysgrifennu a’i chynhyrchu gan ‘Reality Theatre’, cwmni o Dde Cymru sy’n arbenigo mewn dramateiddio materion cymdeithasol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol. Defnyddir y perfformiad theatrig i ysgogi deialog ymhlith y gynulleidfa ar y problemau sy’n ymwneud ag ansicrwydd diagnostig, eithrio a mynediad at wasanaethau. Yn fwy penodol, bydd y digwyddiad yn ceisio codi ymwybyddiaeth o natur diagnosis seiciatryddol, sy’n gallu bod yn amhendant ar brydiau, o botensial ymrannol dealltwriaeth categoreiddio diagnosis, a’r anawsterau i’r rhai sy’n profi ansicrwydd diagnostig. Nod y math hwn o ymgysylltu yn y pen draw yw annog gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol i ystyried defnyddio diagnosis yn fwy hyblyg, gan hyrwyddo datblygiad gwasanaethau i’r rheini sy’n cwympo rhwng gwasanaethau sy’n benodol ar gyfer diagnosis arbennig.

Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad hwn y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr