Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Archwilio Effaith Brexit ar Gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru

Dyddiad: Dydd Iau 16 Ionawr 2020

Amser: 12.00 - 16.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Digwyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru. Ni roddir digon o sylw i'r effaith barhaol y mae Brexit eisoes wedi'i chael ar gymunedau lleiafrifol a'u sefydliadau. Mae gwahaniaethu, hiliaeth, senoffobia a chasineb wedi bodoli erioed, ond bu Brexit yn gatalydd i waethygu hyn, gan ymledu a darparu trwydded i'r safbwyntiau hyn gael eu mynegi, sy’n arwain at effeithiau dwfn o ran cydlyniant cymdeithasol. Mae hyn yn codi pryderon iechyd a lles sylweddol i'r grwpiau hyn, ond mae hefyd yn creu ansicrwydd ynghylch eu hawliau. Mae'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Cyngor Hil Cymru, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn cynnal digwyddiad am ddim, a fydd ar agor i sefydliadau ac aelodau'r gymuned BME yn y Pierhead ym Mae Caerdydd i edrych yn fanwl ar yr effaith y mae Brexit yn ei chael ar y cymunedau hyn yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr