Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansiad llyfr - Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Cofiant yn Gymraeg a Saesneg gydag adran luniau i gofio un o wleidyddion mwyaf addawol Cymru yn dilyn ei farwolaeth o ganser yn gynharach eleni. Cafodd Steffan Lewis ei ethol yn Aelod y Cynulliad Plaid Cymru yn 2016 - un o'r ACau ieuengaf. Fe fu farw yn 34 oed. Cyfraniadau gan deulu, ffrindiau a gwleidyddion, gan gynnwys Adam Price, Elin Jones a rhagair gan Dafydd Wigley.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr