Digwyddiad

DIGWYDDIAD: “Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni: Mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth arferol mewn cyfnod o Argyfwng o ran yr Hinsawdd a’n Hecoleg.”

Dyddiad: Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019

Amser: 18.00 - 20.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r blaned yn wynebu argyfwng ecolegol: rydym ni ar drothwy digwyddiad difodiant màs sydd wedi’i achosi gan weithredoedd dynol. Mae gwyddonwyr wedi ein rhybuddio bod angen i ni drawsnewid ein cymdeithas ar frys er mwyn osgoi risgiau catastroffig dirywiad yr hinsawdd. Mae hwn yn argyfwng byd-eang digyffelyb. Mae ein plant a'n cenedl yn wynebu peryglon difrifol i’n planed. Yn y sgwrs hon, bydd gwyddonydd systemau’r ddaear o Gymro yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am sefyllfa ein planed ac yn trafod rhywfaint o'r seicoleg bresennol mewn cysylltiad â newid yn yr hinsawdd, a bydd yn crybwyll yr oblygiadau ar gyfer pob un o bortffolios y Llywodraeth. Rydym yn croesawu un ac oll i’r digwyddiad sef: Aelodau’r Cynulliad o bob sbectrwm gwleidyddol, gweision sifil, a staff y Cynulliad. Bydd y digwyddiad hwn yn ymwneud ag addysgu a gwerthfawrogi beth sydd yn y fantol o ran dyfodol ein hamgylchedd, heb feio na chywilyddio neb, ond drwy geisio gweithio gyda'n gilydd i ganfod atebion synhwyrol.

Agored i’r cyhoedd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal y tu allan i’n horiau agor arferol, felly bydd presenoldeb ynddo drwy wahoddiad yn unig

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr