Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Sesiwn friffio a gwybodaeth ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u timau
Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Hydref 2019
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd
Disgrifiad: Sesiwn friffio a gwybodaeth gefndirol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u timau ynghylch yr e-ddeiseb sy’n casglu llofnodion ar hyn o bryd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru. Bydd yn cynnwys cyfraniadau gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain, Animal Defenders International a Freedom For The Animals.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr