Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio gwefan Deall Lleoedd Cymru

Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Hydref 2019

Amser: 11.30 - 14.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Bydd lansio gwefan ddwyieithog Deall Lleoedd yng Nghymru yn cefnogi ac yn ysbrydoli cymunedau, pobl sy’n creu lleoedd a llunwyr polisi i wneud newidiadau cadarnhaol yn yr ardaloedd lle y maent yn byw ac yn gweithio. Bydd y wefan yn cynnwys data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol am fwy na 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat sy'n gyflym ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gall pobl ddefnyddio'r wybodaeth hon i nodi cyfleoedd yn eu hardaloedd nhw ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Carnegie y DU (CUKT). Caiff y gwaith o ddatblygu gwefan Deall Lleoedd yng Nghymru ei ariannu gan CUKT a Llywodraeth Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr