Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Derbyniad i Ddathlu AdventureSmartWales

Dyddiad: Dydd Mercher 15 Mai 2019

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: y Pierhead

Disgrifiad: Nod Derbyniad AdventureSmartWales yw dathlu llwyddiant prosiect diogelwch dwy flynedd, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, a lansio sefydlu AdventureSmart.UK diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn annog pobl i fwynhau adnoddau awyr agored naturiol Cymru yn ddiogel, a hynny drwy ddarparu gwybodaeth fyw a chyfleoedd addysg i’r miloedd o gyfranogwyr sy’n mwynhau ein morlin, ein coetiroedd, ein llynnoedd a’n mynyddoedd, ac mae wedi datblygu negeseuon diogelwch safonol a chlir a fydd yn cael eu hyrwyddo ar y cyd gyda sawl partner prosiect, a bydd yn cyd-fynd â’r ymgyrch i annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff a mwynhau’r awyr agored.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr