Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu gwahaniaethu ar sail hil

Dyddiad: Dydd Iau 21 Mawrth 2019

Amser: 10.00 - 14.00

Lleoliad: y Pierhead

Disgrifiad: Mae EYST Cymru (Tim Lleiafrifoedd Ethnig a Chefnogaeth Ieuenctid Cymru) yn eich gwahodd i ymuno â ni i nodi a dathlu’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil. Bydd y gynhadledd eleni yn arddangos a dathlu gwaith amrywiaeth o sefydliadau sy'n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, ac yn cyflwyno'r dystiolaeth ddiweddaraf am wahaniaethu ar sail hil yn ogystal ag am weithio ar y cyd i ddod o hyd i atebion. Mae enwau’r siaradwyr i'w cadarnhau. I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gynhadledd hon, cysylltwch â Ginger Wiegand, ginger@eyst.org.uk.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr