Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Digwyddiad lansio Strategaeth Golwg Cymru Newydd
Dyddiad: Dydd Iau 22 Tachwedd 2018
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Senedd
Disgrifiad: Mae Strategaeth Golwg Cymru yn cyflawni newid cadarnhaol i bobl ddall ac sydd â nam ar eu golwg, eu cymunedau a’r boblogaeth gyffredinol, gan gynnwys rhai sydd mewn perygl o golli eu golwg. Mae’n darparu’n lleol rhan Strategaeth Golwg y DU sy’n rhan o fenter fyd-eang o’r enw ‘VISION 2020: the Right Sight,’ partneriaeth sefydledig rhwng Sefydliad Iechyd y Byd a’r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Dallineb. Mae Strategaeth Golwg Cymru yn lansio ei blaenoriaethau ac fe’i cefnogir gan bartneriaid o ystod o sefydliadau ar draws sectorau sy’n ymwneud â chefnogi ac ymgyrchu dros bobl â nam ar eu golwg.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr