Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Adroddiad Effaith Samariaid Cymru

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018

Amser: 11.00 - 12.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Diben y Samariaid yw lleihau nifer y bobl sy’n marw oherwydd hunanladdiad. Yng Nghymru, rydym yn gweithio’n lleol ac yn genedlaethol i gyflawni hyn drwy ein gwasanaeth cymorth emosiynol a thrwy estyn at grwpiau risg uchel yn ein cymunedau. Mae ein canghennau yng Nghymru yn ymateb i alwad am gymorth bob 3 munud. Yn ystod 2017-18, rydym wedi datblygu ein gwaith polisi ar unigedd a theimlo’n ynysig, ymddygiad hunanladdol ac anfantais economaidd gymdeithasol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Rydym wedi parhau i weithio gyda chymunedau drwy ein gwaith gydag ysgolion, y diwydiant rheilffyrdd a charchardai. Mae ein gwasanaeth cymorth emosiynol yn Gymraeg wedi cael ei ymestyn, yn ogystal â’n cyrhaeddiad i gymoedd y de drwy ein rhaglen tair blynedd arloesol. Ymunwch â ni i lansio ein Hadroddiad Effaith a’n helpu i ddathlu ein gwaith yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr