Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Her Gymunedol Arian am Oes

Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018

Amser: 11.00 - 16.00

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Mae Arian am Oes yn rhaglen sy'n ysbrydoli cenhedlaeth o bobl i wneud y gorau o'u harian. O'u galluogi i deimlo'n hyderus a dechrau siarad yn agored am arian i ddarparu hyfforddiant o safon uchel a systemau cymorth hanfodol; mae Arian am Oes yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau bywyd a'r ddarpariaeth sydd eu hangen i bobl 16-25 oed ar draws Cymru reoli eu harian. Mae Her Gymunedol Arian am Oes yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddylunio, datblygu a darparu eu prosiect cymunedol eu hunain er mwyn datrys problem arian yn eu cymuned. Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos ac yn dathlu eu prosiectau ac yn rhoi cyfle iddynt roi cyflwyniad i Grŵp Bancio Lloyds a gweithwyr proffesiynol eraill.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr