Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Perfformiad Gweithredu, nid Geiriau

Dyddiad: Dydd Iau 8 Tachwedd 2018

Amser: 12.00 - 14.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Cydweithredodd Operasonic ag Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) i drafod gweithredaeth wleidyddol a 'Gweithredu, nid Geiriau' wrth baratoi at yr opera Rhondda Rips It Up! Gweithiodd Rhian Hutchings, Operasonic, gyda grŵp o fyfyrwyr drama a cherddoriaeth Blwyddyn 9 a 10 yn Ysgol Uwchradd John Frost, Casnewydd. Roedd y cydweithredu'n cynnwys gweithio gydag awdur, cyfansoddwr a'r myfyrwyr i greu perfformiad syfrdanol ar gyfer y dangosiad cyntaf o 'Rhondda' ar 7 Mehefin yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd. Hoffai OCC ddod â'r perfformiad i'r Senedd bellach.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr