Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Yr hyn a gyflawnwyd o ran Cysylltiadau Hiliol yn y 70 mlynedd ers Windrush, yn yr 50 mlynedd ers Deddf Cysylltiadau Hilio 1968, ac yn y 25 mlynedd ers i Stephen Lawrence farw
Dyddiad: Dydd Iau 25 Hydref 2018
Amser: 09.00 - 16.30
Lleoliad: Prif Neuadd y Pierhead
Disgrifiad: Mae Race Council Cymru yn eich gwahodd i ymuno ag ef ym Mis Hanes Pobl Dduon 2018 ar gyfer Cynhadledd Cydraddoldeb Hiliol i drafod y cynnydd a wnaed o ran Cysylltiadau Hiliol yng Nghymru a’r DU yn y 70 mlynedd ers Windrush, yn y 70 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda chefnogaeth gan bersonél o leiafrifoedd ethnig, yn yr 50 mlynedd ers pasio Deddf Cysylltiadau Hiliol 1968, yn yr 50 mlynedd ers i Martin Luther King Jr farw, ac yn y 25 mlynedd ers i Stephen Lawrence farw. Cynhelir gweithdai a bydd prif siaradwyr i drafod y cynnydd a wnaed yn yr 50 – 70 mlynedd diwethaf a bydd cyfle i ymuno mewn trafodaethau ar wahaniaethu ar sail hil yng Nghymru ar hyn o bryd ynghyd â’r camau nesaf y mae angen eu cymryd.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr