Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Unrest yn y Senedd (ffilm a thrafodaeth banel)
Dyddiad: Dydd Mercher 24 Hydref 2018
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Ystafell Briffio’r Cyfryngau, y Senedd
Disgrifiad: Dyma gyfle i weld detholiad o ffilm arobryn Unrest (https://www.unrest.film/) a dysgu mwy am y cyflwr niwrolegol ME-CFS. Dangoswyd y darn eisoes yn Senedd San Steffan ac yn Holyrood yn yr Alban. Ceir cwrdd â chleifion a chlywed am eu pryderon am y diffyg gofal a chymorth yng Nghymru. Bydd cyfle i drafod â’r panel ac asesu'r anghenion dybryd sydd yng Nghymru, yn enwedig am fod NICE yn Lloegr wedi dileu’r canllawiau meddygol ar gyfer y cyflwr hwn a bydd yn parhau i adolygu’r mater tan 2020.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr