Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Model y Cenhedloedd Unedig Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Gwener 9 Chwefror 2018

Amser: 10.00 - 16.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Mae Cymdeithas Model y Cenhedloedd Unedig Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y caiff ein pedwaredd gynhadledd ei chynnal ar 9-11 Chwefror, yng Nghaerdydd. Yn ystod y gynhadledd tri diwrnod hon byddwn yn casglu myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan yn rôl cynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig. Trefnir cyfres o gynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig, sy’n gyfres uchel iawn ei pharch, drwy’r byd i gyd. Er hynny, y gynhadledd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2014 oedd y gyntaf i’w chynnal yng Nghymru a hon yw’r unig gynhadledd o’i math a gaiff ei chynnal yn y wlad. Felly, byddwn yn denu’r myfyrwyr mwyaf addawol, sy’n dangos cryn allu ym maes arwain, diplomyddiaeth a siarad cyhoeddus.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr