Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod Clefydau Anghyffredin 2018

Dyddiad: Dydd Mercher 14 Chwefror 2018

Amser: 17.30 - 19.30

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Mae'r Diwrnod Clefydau Prin yn ddigwyddiad blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i'r gymuned clefydau prin ym mhob cwr o'r byd godi ymwybyddiaeth o glefydau prin a thynnu sylw at glefydau prin fel blaenoriaeth iechyd cyhoeddus i lywodraethau ac adrannau iechyd. Ers 2009, mae Rare Disease UK (sy’n fenter gan Genetic Alliance UK), y gynghrair genedlaethol ar gyfer pobl sydd â chlefydau prin a phawb sy'n eu cefnogi, wedi cydgysylltu digwyddiadau seneddol sy'n codi ymwybyddiaeth ledled y DU. Cynhelir yr unfed Diwrnod Clefydau Prin rhyngwladol ar ddeg ar 28 Chwefror 2018. I nodi’r diwrnod, bydd Rare Disease UK yn cynnal derbyniad yn y Senedd ddydd Mercher 14 Chwefror, rhwng 18:00 a 20:00.

Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad y tu allan i oriau agor arferol, felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr