Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion mewn perthynas â chanser drwy ymarferion cryfhau: Gofal iechyd ddarbodus ledled Cymru

Dyddiad: Dydd Mercher 14 Chwefror 2018

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Senedd

Disgrifiad: Pan mae cleifion yr amheuir eu bod yn dioddef o ganser yn mynd at feddyg, mae ganddynt nifer o broblemau iechyd a chyflyrau cronig eraill, yn ogystal â symptomau canser. Yn aml, nid yw’r problemau hyn yn cael eu canfod, ac felly, nid ydynt yn cael sylw pan fydd y claf yn mynd at y meddyg. Y term a roddir i’r syniad o fynd i'r afael â'r problemau iechyd hyn yn gynnar yw ‘Prehabilitation’ (PREHAB), sef ymarferion cryfhau. Mae’r syniad hwn ennill ei blwy ledled y byd, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd yng Nghymru. Credir y bydd PREHAB yn cyfrannu at y gwelliant sydd ei angen o ran cyfraddau goroesi canser yng Nghymru, a hynny drwy gynyddu nifer y cleifion sy’n gymwys i gael triniaeth feddygol. Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos ein gwaith diweddar yn y maes hwn ac yn dangos effaith y gwaith hwn i'n cleifion yng Nghymru.

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr