Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad Dydd Santes Dwynwen Cymorth i Fenywod Cymru

Dyddiad: Dydd Iau 25 Ionawr 2018

Amser: 16.00 - 18.00

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Santes Dwynwen yw santes cariadon Cymru, ac fe'i dathlir ledled Cymru ar 25 Ionawr. Bydd Cymorth i Fenywod Cymru'n defnyddio'r diwrnod hwn i nodi dechrau ei ddathliadau, 40 mlynedd ers sefydlu’r corff, a fydd yn parhau drwy gydol 2018. Fel rhan o'r dathliadau hyn, bydd Cymorth i Fenywod Cymru a Jane Hutt AC yn cynnal digwyddiad ar y cyd yn y Pierhead yn ystod prynhawn Diwrnod Santes Dwynwen. Bydd y digwyddiad yn dathlu 40 mlynedd diwethaf Cymorth i Fenywod Cymru, o agor y sefydliad gan Jane Hutt ym 1978 hyd heddiw, gyda chyfres o sgyrsiau a pherfformiadau gan fenywod sy'n ymwneud â'r mudiad, o’r dyddiau hynny hyd heddiw.

Agored i’r cyhoedd: Cynhelir y digwyddiad y tu allan i oriau agor arferol, felly bydd presenoldeb drwy wahoddiad yn unig

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr