Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cyhoeddi Hawliau’n gwreiddio, Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg

Dyddiad: Dydd Iau 12 Hydref 2017

Amser: 12.30 - 13.30

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi adroddiad sy’n gofyn a yw profiadau siaradwyr Cymraeg o wasanaethau cyhoeddus yn gwella. Mae Hawliau’n gwreiddio yn ystyried a yw gosod safonau ar sefydliadau wedi arwain at welliannau ac a yw sefydliadau’n galluogi ac yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Siaradwr gwadd: Cyng. Ellen ap Gwynn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan Comisiynydd y Gymraeg ar yr un diwrnod www.comisiynyddygymraeg.cymru Cynhelir gweithdy yn y bore ar gyfer swyddogion sefydliadau cyhoeddus i ystyried yr angen i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr