Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Pumed Cynhadledd A Gwobrau Blynyddol Adfywio Cymru

Dyddiad: Dydd Iau 12 Hydref 2017

Amser: 09.30 - 16.00

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Mae Adfywio Cymru yn dathlu 5 mlynedd ers ei sefydlu gyda chynhadledd ac arddangosfa yn y Senedd ddydd Iau 12 Hydref 2017, wedi'i noddi gan Lesley Griffiths AC ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Bydd Adfywio Cymru'n defnyddio'r cyfle hwn i ddathlu a dangos peth o'r gwaith gwych, amrywiol sy'n cael ei wneud ledled Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sut mae Adfywio wedi bod yn gysylltiedig â galluogi hyn i ddigwydd. Y nod ar gyfer y digwyddiad hwn hefyd yw bod yn ysbrydoliaeth o ran dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau'n cydweithio tuag at weledigaeth a rennir.

Agored i’r cyhoedd: Mae'r digwyddiad yn agored i'r cyhoedd, ond i gael mynediad llawn i’r arddangosfa, y gynhadledd a’r seremoni gwobrwyo sy’n cynnwys lluniaeth a chinio cofrestrwch os gwelwch yn dda ar https://renewwales2017.eventbrite.co.uk

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr