Digwyddiad

ARDDANGOSFA: Y Mur Distawrwydd

Dyddiad: Dydd Llun 27 Mehefin 2016 i ddydd Sul 3 Gorffennaf 2016

Lleoliad: Neuadd y Pierhead

Disgrifiad: Cafodd y Mur Distawrwydd ei ysbrydoli gan brofiadau Carl. Tyfodd Carl i fyny ym Mhowys, a chafodd ei gam-drin yn rhywiol pan oedd yn blentyn. Cafodd ei gam-drin gan bobl bwerus a, degawdau’n hwyrach, mae’n ceisio cael cyfiawnder. Fel llawer o oroeswyr a dioddefwyr, mae Carl am wneud rhywbeth cadarnhaol am y sefyllfa – er ei les ef ei hun ac eraill. Dyfeisiodd y Mur Distawrwydd, ac mae goroeswyr a dioddefwyr ledled y DU wedi anfon ystod eang o luniau, cerddi, straeon, darluniau a gwrthrychau eraill ato. Mae pob cyfraniad yn cynrychioli’r ffordd y mae’r person hwnnw yn gweld ei hun ar ôl iddo gael ei gam-drin yn blentyn, neu’r ffordd y mae’r bobl y mae’n eu caru yn ei weld. Gall pobl gyfrannu at yr arddangosfa ar unrhyw adeg. Mae Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru wedi gweithio gyda Carl i ddod â’r arddangosfa hon i Gymru, gan helpu i oroeswyr Cymru gael llais. Gall unrhyw un y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt gysylltu â 0808 808 0818

Agored i’r cyhoedd: Ydy

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr