Agenda item

Trafod Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2021-22 y Comisiwn (i argymell llofnodi'r cyfrifon)

Cofnodion:

ARAC (22-03) Papur 5 - ARA 2021-22 - papur blaen

ARAC (22-03) Papur 5 - Atodiad A – ARA 2021-22

5.1 Cyflwynodd Siwan Davies yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, gan nodi bod y Pwyllgor eisoes wedi adolygu’r naratif ym mis Ebrill. Gwahoddodd Nia i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon.

5.2 Diolchodd Nia i’r tîm archwilio am broses archwilio esmwyth. Diolchodd hefyd i’w thîm am eu hymrwymiad a’u gwaith rhagorol wrth gwblhau set lân arall o gyfrifon. Nododd ei diolch, yn arbennig i Catharine Bray, Pennaeth Cyllid am y byddai’n ymddeol ym mis Tachwedd – roedd y Pwyllgor hefyd yn dymuno rhoi ar gofnod eu diolch i Catharine, gan ddymuno’n dda iddi ar ei hymddeoliad.

5.3 Amlinellodd Nia rai o’r pwyntiau allweddol o’r Datganiad Cyfrifon. Amlygodd fod y tanwariant alldro ychydig yn uwch na’r targed a amcangyfrifwyd, yn rhannol oherwydd costau is na’r disgwyl ar ôl yr etholiad – esboniwyd hyn yn y sylwebaeth rheolwyr fel sy’n ofynnol gan FREM. Tynnodd sylw hefyd at y wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â chyflog, a oedd bellach yn dangos canradd cyflog pwynt 25 a 75 yr holl weithwyr, yn ogystal â’r cyflog canolrifol a adroddwyd yn flaenorol. Croesawodd y Cadeirydd gynnwys rhagor o fanylion am gyflogau staff, roedd yn fodlon â’r sylw yn y drafodaeth am ailbrisio (o dan eitem 4) ac roedd yn falch o nodi’r gwaith paratoi ar gyfer adrodd ar IFRS 16 yn ymwneud â phrydlesi yng nghyfrifon y flwyddyn ganlynol.

5.4 Mewn ymateb i gwestiwn gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch penodi’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol, dywedodd Siwan fod hyn wedi digwydd y tu allan i’r cyfnod adrodd.

5.5 Disgrifiodd Nia y swm sylweddol o waith a oedd ynghlwm wrth adolygu gwariant cyfalaf yn erbyn refeniw, a gyflawnwyd gan y tîm Cyllid. Byddent yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru i fireinio’r broses hon ac i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o unrhyw feysydd amwys. 

5.6 Cadarnhaodd Nia, yn amodol ar gytundeb gan y Comisiwn, fod disgwyl i’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon gael eu llofnodi a’u gosod gerbron y Senedd ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 23 Mehefin. Yna byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu arnynt yn yr hydref.

5.7 Llongyfarchodd y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Nia a'r tîm Cyllid ar y set lân o gyfrifon a’r sicrwydd a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth. Canmolodd Siwan y tîm hefyd am eu proffesiynoldeb parhaus.

5.8 Gofynnodd Siwan i Arwyn Jones amlinellu manylion cyflwyniad rhyngweithiol yr Adroddiad Blynyddol ar wefan y Senedd. Cyflwynodd Arwyn fersiwn wedi’i diweddaru o’r tudalennau gwe, gan dynnu sylw at amlygrwydd fersiwn argraffadwy. Dangosodd sut y gallai darllenwyr lywio i adrannau penodol o’r adroddiad, gyda lincs i ddeunydd cyhoeddedig cysylltiedig, gan gynnwys adroddiadau a chynnwys fideo a sain.

5.9 Mewn ymateb i awgrymiadau gan aelodau’r Pwyllgor, cytunodd Arwyn i ychwanegu manylion am weithgarwch diweddar yn ymwneud â’r adroddiad gan y Pwyllgor Dibenion Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Cytunodd hefyd i gynnwys linc o’r fersiwn ar-lein i’r papur briffio a gynhyrchwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil ar weithgarwch deddfwriaeth yn ystod y cyfnod adrodd.  Cadarnhaodd hefyd y byddai’r adroddiad, unwaith y byddai wedi’i archwilio a’i osod, yn dod yn gofnod wedi’i gadw o weithgarwch ar gyfer 2021-22.
   

5.10 Mewn ymateb i gwestiwn am y rhesymeg dros archwilio’r fersiwn Saesneg, cadarnhaodd Archwilio Cymru y byddai ganddynt y capasiti i archwilio’r fersiwn Gymraeg ond y byddai angen y ddau fersiwn ar yr un pryd.

5.11 Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr adroddiad a’r ffordd caiff ei gyflwyno yn creu argraff dda, a’i fod yn hyblyg ac yn ddefnyddiol i ddarllenwyr, a chanmolodd bawb a fu’n ymwneud â’r gwaith o’i gynhyrchu. Fe wnaethant annog swyddogion i fanteisio ar gyfleoedd i hyrwyddo ei gynnwys cymaint â phosibl yn ystod y flwyddyn.    

5.12 Argymhellodd y Pwyllgor i'r Swyddog Cyfrifyddu y dylid llofnodi'r datganiadau ariannol ar gyfer 2021-22. Byddai llofnod electronig yn cael ei ychwanegu cyn gosod a chyhoeddi'r adroddiad.