Agenda item

Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd neu risg sy'n dod i'r amlwg - Cadw at y newidiadau i fframwaith rheoleiddio'r Aelodau yn y Chweched Senedd

Oral item around CRR update

Cofnodion:

 

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

11.1    Gwahoddodd y Cadeirydd Siwan i gyflwyno'r eitem hon, a chroesawodd Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau, Anna Daniel, Pennaeth Gwasanaeth Trawsnewid Strategol a Meriel Singleton, Clerc y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac arweinydd y gwaith mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio, i'r cyfarfod. 

11.2    Cyfeiriodd Siwan at y diweddariad manwl sydd wedi’i gynnwys yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol ac amlinellodd yr elfennau allweddol o’r fframwaith rheoleiddio gan eu bod yn gymwys i’r Aelodau o’r Senedd (yr Aelodau) fel a ganlyn:

-       y Cod Ymddygiad newydd a oedd wedi’i gymhwyso ers dechrau’r Chweched Senedd a’r adolygiad parhaus o weithdrefnau cwyno sy’n ymwneud â’r cod hwn;

-       Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau a ddaeth i rym ar ddechrau'r Chweched Senedd;

-       rheolau'r Swyddog Cyfrifyddu a fyddai'n destun ymgynghoriad yn fuan;

-       polisi Urddas a Pharch yr Aelodau.

11.3    Soniodd Siwan am y dull cydgysylltiedig sy’n cael ei sefydlu ar gyfer y materion rheoleiddio hyn sy’n ymwneud â’r Aelodau, gan gynnwys swyddogion perthnasol o bob rhan o’r Comisiwn. Soniodd hefyd am y llwybrau ar gyfer ymgysylltu â grwpiau perthnasol, megis Penaethiaid Staff a Grŵp Cyswllt Gwleidyddol newydd y Senedd sydd wedi’i sefydlu i’r Llywydd a’r Prif Weithredwr ymgysylltu â’r Aelodau.

11.4    Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor am ei rôl mewn perthynas â’r fframwaith rheoleiddio, a rôl y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, nododd Siwan y byddai’r Comisiwn yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â phob pwyllgor fel y bo’n briodol.

11.5    Pan ofynnwyd iddo am ei safbwynt ar y dull o reoli’r risg hon, cydnabu Ken Skates yr heriau o ran ymgysylltu â’r Aelodau ac awgrymodd y gallai sesiynau briffio byr gyda grwpiau plaid fod y ffordd fwyaf effeithiol o ymgysylltu.

11.6    Croesawodd y Pwyllgor sefydlu’r dull cydgysylltiedig hwn a chydnabu’r heriau o ran gwneud fframwaith cymhleth yn ddealladwy i sicrhau bod yr Aelodau a’r holl ddeiliaid swyddi yn deall eu cyfrifoldebau. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am rannu'r papur briffio a roddwyd i'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol a nododd yn glir gyfrifoldebau'r cyrff sy'n ymwneud â'r fframwaith rheoleiddio.

11.7    Trafododd y Pwyllgor ffyrdd y gellid symleiddio'r ffordd y cyflwynir elfennau o'r fframwaith a'u cyfleu'n effeithiol. Awgrymodd Ann Beynon siart lif ar sut y gallai’r elfennau o’r fframwaith gyd-fynd â’i gilydd fod yn ddefnyddiol, yn enwedig i Aelodau newydd y cytunodd Siwan i’w hystyried.

11.8    Ychwanegodd Siwan mai nod y dull cydgysylltiedig hwn oedd helpu’r Aelodau i ddeall y rheolau fel roeddent yn gymwys iddynt ac egluro llwybrau iddynt ofyn am ragor o gyngor. Mewn ymateb i gwestiynau am amserlenni, cadarnhaodd Siwan fod nifer o dasgau ar wahân i’w cyflawni mewn perthynas â phob elfen o’r fframwaith ac y byddai’r dull yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng yn y dyfodol i hwyluso a chydgysylltu newidiadau yn y dyfodol a sicrhau bod swyddogion yn ymgynghori â grwpiau priodol.

11.9    Mewn ymateb i gwestiynau am orgyffwrdd ym meysydd cyfrifoldeb y cyrff dan sylw, rhoddodd Siwan sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai cyfrifoldebau cyrff, megis y Comisiwn, y Bwrdd Taliadau, y Swyddog Cyfrifyddu a’r Comisiynydd Safonau yn cael eu mapio i sicrhau eu bod mor glir â phosibl.

11.10    Diolchodd y Pwyllgor i Siwan a'i thîm am ddiweddariad clir a chryno. Hefyd, gwnaeth sylwadau ar werth eu dull cydgysylltiedig a chroesawu safbwynt Ken ar y risg hon. Cytunodd Siwan i ystyried pryd y byddai'n briodol ymgysylltu â'r Pwyllgor yn y dyfodol.

11.11    Pwysleisiodd Manon bwysigrwydd y gwaith hwn a'r angen am eglurder er mwyn lliniaru yn erbyn bod yn agored i risgiau sy'n ymwneud â deall codau, rheolau a pholisïau a chadw atynt. Cytunodd y Cadeirydd fod hwn yn ddull synhwyrol.