Agenda item
Sesiwn 7: Cyfarfod y bwrdd
Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 27 Mai
Papur 2 - Papur diweddariad
Papur 3 - Tâl Cadeiryddion Pwyllgorau
Papur 4 - Adroddiad Blynyddol
Cofnodion:
Papur 1 -
Cofnodion; Papur 2 - Papur Diweddaru
7.1 Cymeradwyodd
y Bwrdd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021.
7.2 Trafododd y
Bwrdd y materion a gododd yr Aelodau yn ystod y sesiwn galw heibio a gynhaliwyd
y diwrnod blaenorol.
7.3 Trafododd y
Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i’r Aelodau yng
nghyswllt Covid-19 a nododd y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cyfyngiadau
ar 14 Gorffennaf.
7.4 Trafododd y
Bwrdd y sylwadau a oedd wedi dod i law ynghylch agor ac ailagor swyddfeydd.
Cytunodd y Bwrdd i dynnu sylw at Gronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn
Covid-19 a sut y gall yr Aelodau gael y cymorth ariannol a gynigir.
7.5 Trafodwyd
hefyd newidiadau strwythurol ehangach, a mwy arwyddocaol i gynllun y
swyddfeydd, gan ystyried a fyddai modd eu cynnwys yng nghwmpas y Gronfa
Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn Covid-19. Roedd y Bwrdd yn sylweddoli y byddai
rhai o’r Aelodau efallai’n cael problemau penodol wrth sicrhau bod eu
swyddfeydd yn ddiogel o ran Covid.
Nododd y Bwrdd ei bod yn debygol y bydd cyfyngiadau ar allu'r Aelodau i
ymgymryd â newidiadau o’r fath fel lesddeiliaid. Yn unol â chyfarwyddyd
Llywodraeth Cymru i gymryd “mesurau rhesymol”, roedd y Bwrdd o'r farn y bydd
angen i Asesiadau Risg yr Aelodau ystyried amrywiol opsiynau i weithio mor
hyblyg â phosibl yng nghyd-destun cyfyngiadau strwythurol eu swyddfeydd. Nodwyd
y gallai’r Aelodau hawlio arian o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag
Etholwyr os oedd angen cyngor a barn arbenigol arnynt i baratoi eu hasesiadau
risg.
7.6 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n ddefnyddiol cael tystiolaeth uniongyrchol gan yr Aelodau, yn
enwedig mewn perthynas â’r cymorth sydd ei angen arnynt i agor ac ailagor
swyddfeydd mewn modd sy’n “ddiogel o ran Covid”. I'r perwyl hwnnw, cytunodd y Bwrdd i adolygu'r
darpariaethau sydd ar gael i’r Aelodau i’w cynorthwyo â gofynion Covid yn y
cyfarfod ym mis Medi a gwahodd yr Aelodau i rannu gwybodaeth i'r Bwrdd ei
hystyried.
7.7 Trafododd y
Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltu â’r Aelodau dros doriad yr haf a chyn
y cyfarfod ym mis Medi. Hefyd, cytunodd
y Bwrdd i gynnal sesiynau galw heibio i’r Aelodau yn fwy rheolaidd, sef unwaith
bob tymor.
7.8 Nododd y
Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am lansio’i wefan newydd.
7.9 Cytunodd y
Bwrdd ar ei flaenraglen waith tan fis Ionawr 2022.
Camau i’w
cymryd: Yr
ysgrifenyddiaeth i:
- drefnu i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd fis Mai;
- rhoi gwybodaeth i’r Bwrdd i’w alluogi i
adolygu’r darpariaethau sydd ar gael i’r Aelodau a’u swyddfeydd, mewn perthynas
â Covid-19;
- gofyn am dystiolaeth gan yr Aelodau yng
nghyswllt cymorth i fodloni gofynion Covid-19;
- cwblhau’r rhaglen o ymweliadau â’r Aelodau
a’u swyddfeydd;
- trefnu sesiynau galw heibio i'r Aelodau yn
y dyfodol, a chynnal y nesaf yn nhymor yr hydref;
- trefnu cyfarfodydd i’r Cynrychiolwyr yn
ystod y cyfarfod ym mis Medi;
- anfon lincs i’r fersiynau terfynol o’r
wefan newydd at aelodau’r Bwrdd a threfnu iddi fynd yn fyw pan fydd yn barod.
Papur 3 - Tâl Cadeiryddion y Pwyllgorau
7.10 Trafododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf gan
Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd am sefydlu pwyllgorau, fel y cytunwyd
gan y Senedd dros yr wythnosau diwethaf. Cafodd y Bwrdd hefyd wybod am
gyd-destun penderfyniadau’r Pwyllgor Busnes mewn perthynas â chylchoedd gwaith
y pwyllgorau a’u hamserlenni.
7.11 Nododd y Bwrdd y cyngor cyfreithiol gan Huw
Williams, y Prif Gynghorydd Cyfreithiol, ar gymhwyso'r Penderfyniad a'i allu i
weithredu ei benderfyniadau ar y cyflogau sy'n daladwy i ddeiliaid swyddi
ychwanegol o’r dyddiad y cawsant eu penodi.
7.12 O ystyried cylch gwaith a chyfrifoldebau
cadeiryddion y pwyllgorau, a phwysigrwydd rôl holl bwyllgorau’r Senedd yn y
gwaith o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a chyflawni swyddogaethau’r Senedd,
penderfynodd y Bwrdd y bydd yr holl gadeiryddion a gaiff eu hethol ar ôl 29
Mehefin yn gallu hawlio’r gyfradd uwch o £13,741 y flwyddyn. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r tâl hwnnw’n daladwy
o’r dyddiad y cawsant eu hethol yn gadeirydd, sef 29 Mehefin.
7.13 Cytunodd y Bwrdd hefyd i gadw'r ddwy gyfradd
o dâl ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau fel y nodwyd yn y Penderfyniad i'w
defnyddio yn y dyfodol os bydd angen gwneud hynny yn ystod tymor y Senedd hon.
Camau i’w cymryd:
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- ysgrifennu at gadeiryddion yr holl
bwyllgorau i roi gwybod iddynt am benderfyniad y Bwrdd;
- ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes
yn amlinellu penderfyniadau’r Bwrdd;
- rhoi gwybod i dîm Cymorth Busnes i’r
Aelodau am y penderfyniad, i ganiatáu iddynt wneud y trefniadau angenrheidiol i
dalu’r cadeiryddion.
Papur 4 -
Adroddiad Blynyddol
7.14 Trafododd y
Bwrdd ei adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf a chytuno
arno. Cytunodd hefyd y byddai'n cymeradwyo'r dadansoddiad terfynol o gostau
drwy’r e-bost unwaith y byddent ar gael.
Camau i’w
cymryd: Yr
ysgrifenyddiaeth i:
-
drefnu
i gyfieithu a pharatoi'r adroddiad i'w gyhoeddi, gyda'r bwriad o'i osod gerbron
y Senedd ddiwedd mis Gorffennaf;
-
trefnu
i aelodau blaenorol y Bwrdd gytuno ar y dadansoddiad o’u costau tra oeddent yn
aelodau o’r Bwrdd, cyn eu cyhoeddi.