Agenda item

Risgiau corfforaethol

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 5 - Risgiau corfforaethol

ARAC (03-21) Papur 5 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol

ARAC (03-21) Papur 5 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd   

8.1         Cyflwynodd Dave yr eitem hon. Amlinellodd y cynnig i ddileu'r risg o amgylch cyfnod pontio Etholiad y Senedd 2021 o Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn a'r bwriad i ailasesu'r risg Coronafeirws gan y Bwrdd Gweithredol.

8.2         Rhoddodd Siwan y wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad parhaus o'r risgiau sy'n gysylltiedig â newid cyfansoddiadol a diwygio'r Senedd. Ychwanegodd y byddai'r risgiau'n canolbwyntio ar ymateb y Comisiwn i benderfyniadau gwleidyddol a fyddai'n dechrau dod i'r amlwg wrth i fusnes y Senedd fynd rhagddo yn dilyn yr etholiad.

8.3         Atgoffodd Dave y Pwyllgor mai adroddiad cryno oedd hwn o statws y risgiau a bod y Cyfarwyddwyr a'r Bwrdd Gweithredol yn adolygu adroddiadau manylach yn rheolaidd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch perchnogaeth, eglurodd Dave hefyd fod pob risg gorfforaethol yn eiddo i Gyfarwyddwr arweiniol gyda mewnbwn gan y Penaethiaid Gwasanaethau perthnasol.

8.4         Mewn perthynas â'r risgiau sy'n gysylltiedig â Safonau Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd, gofynnodd Ann Beynon a oedd yn werth i'r Pwyllgor ymgysylltu â'r Comisiynydd Safonau newydd. Nododd y Cadeirydd y dylai'r Pwyllgor, gan fod y Comisiynydd yn ddeiliad swydd annibynnol, ganolbwyntio ar adolygu'r broses o reoli risgiau mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir gan y Comisiwn. Atgoffodd Siwan y Pwyllgor fod y risg hon wedi canolbwyntio ar sut yr oedd swyddogion y Comisiwn wedi cefnogi'r Senedd i gynnal hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn safonau, gan gynnwys y Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Senedd a phenodi Comisiynydd Safonau newydd. Ychwanegodd y byddai’r ffocws nawr, gan fod y ddau hyn bellach ar waith, yn symud tuag at gefnogi'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ar ôl ei sefydlu, i gynnal adolygiad o'r weithdrefn gwyno.

8.5         Ychwanegodd Manon, mewn ymateb i adborth yn ystod cyfnod sefydlu Aelodau newydd, fod briff yn cael ei baratoi i egluro rolau a chylchoedd gwaith y Comisiynydd Safonau a'r Bwrdd Taliadau. Byddai hyn hefyd yn cynnwys manylion o ran rheolau'r Swyddog Cyfrifyddu.

8.6         Croesawodd Suzy unrhyw eglurder ynghylch dyletswydd y Comisiwn i gefnogi'r Bwrdd Taliadau annibynnol.

8.7         Mewn ymateb i gwestiwn gan Suzy ynghylch y gyllideb a chefnogaeth i'r Comisiynydd Safonau, atgoffodd Siwan y Pwyllgor ei bod yn ofyniad statudol i'r Comisiwn ddarparu adnoddau ar gyfer swydd y Comisiynydd. Esboniodd fod Protocol yn cael ei lunio gyda'r Comisiynydd newydd yn seiliedig ar yr egwyddor o ddull hyblyg parhaus, lle roedd staff y Comisiwn yn mynd ar secondiad i’w swyddfa.

8.8         Mewn perthynas â'r risg o ran Urddas a Pharch staff y Comisiwn, awgrymodd Suzy ychydig o werthusiad drwy archwiliad mewnol ar effeithiolrwydd yr hyfforddiant a ddatblygwyd i roi'r hyder i staff herio ymddygiad, a chytunodd y swyddogion i ystyried hyn.

8.9         Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Aled p ran penderfyniadau gwleidyddol ynghylch diwygio'r Senedd, rhoddodd Siwan sicrwydd y byddai fframwaith cyfansoddiadol y DU, gan gynnwys materion fel y gostyngiad yn nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru, newidiadau i ffiniau llywodraeth leol, yn cael ei ystyried wrth asesu'r risgiau i'r Comisiwn.

8.10       Byddai'r Cadeirydd yn trafod yr adolygiad sydd ar ddod o Fframwaith Sicrwydd y Comisiwn gyda swyddogion cyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf, yn benodol ynghylch sut mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol yn cydweddu iddo a rôl y Pwyllgor o ran sicrhau bod y prosesau i'w gefnogi yn effeithiol.

8.11       Byddai'r Cadeirydd hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Dave ynghylch ailstrwythuro'r wybodaeth ddiweddaraf a gafodd ar risgiau seiberddiogelwch. Mewn ymateb i ymholiad penodol gan Aled ynghylch defnyddio cyfrifiaduron Mac, rhoddodd Dave sicrwydd bod newidiadau i'r ffordd yr oedd y rhain yn cysylltu â'r rhwydwaith yn rhan o'r mesurau i wella amddiffynfeydd a sicrhau diogelwch y rhwydwaith. 

8.12       Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y sicrwydd a roddwyd ar y pwyntiau a godwyd ac roedd yn hapus gyda'r adroddiadau risg a'r prosesau rheoli risg.