Agenda item

Risg corfforaethol

Cofnodion:

            ARAC (02-21) Papur 12 – Risg corfforaethol

ARAC (02-21) Papur 12 – Atodiad A Crynodeb o’r gofrestr risg corfforaethol

ARAC (02-21) Papur 12 – Atodiad B – Risgiau corfforaethol sydd wedi’u nodi

13.1       Cyflwynodd Dave yr eitem hon, gan nodi bod y gofrestr risg corfforaethol wedi’i hadolygu gan y Bwrdd Gweithredol ar 21 Ebrill, cyn amlinellu’r newidiadau a gytunwyd. Ymatebodd swyddogion fel sydd wedi’i nodi isod i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar risgiau penodol.

13.2      Roedd Dave yn fodlon â’r wybodaeth a nodwyd ar gyfer disgrifio’r risg o ran diogelu data a difrifoldeb y risg hon, gan ychwanegu bod adroddiadau llawnach yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Gweithredol fel sail ar gyfer ei adolygiadau. Amlinellodd yr heriau ynghylch cynnydd mewn pwysau gwaith yn maes hwn, yn rhannol oherwydd newidiadau i weithgarwch ymgysylltu a digwyddiadau oherwydd y pandemig, yn ogystal â’r paratoadau ar gyfer yr etholiad a’r broses gynefino ar gyfer yr Aelodau newydd. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi timau ar draws y Comisiwn i gynnal asesiadau effaith a hysbysiadau preifatrwydd, yn ogystal â chynnal ymwybyddiaeth o faterion o ran diogelu data.

13.3      O ran y risgiau sy’n gysylltiedig â chydymffurfio â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, eglurodd Arwyn y byddai cyfathrebu’n effeithiol ag Aelodau, eu staff a’r grwpiau gwleidyddol i drafod materion a oedd yn codi, yn ogystal â’r prosesau a oedd ar waith i liniaru unrhyw effeithiau, yn lleihau effeithiau unrhyw achos o ymddwyn yn groes i’r cynllun. Roedd yr aelodau’n gwerthfawrogi cyfyngiadau’r llwyfannau presennol a’r ymdrechion parhaus gan y Comisiwn i ddod o hyd i ddatrysiad technegol ar gyfer pob cyfarfod. Atgoffodd Arwyn y Pwyllgor fod y mater hwn dim ond effeithio ar gyfarfodydd preifat, a bod cyfieithu ar y pryd yn parhau i fod ar gael ar gyfer holl fusnes cyhoeddus a ffurfiol y Senedd. Ychwanegodd fod camau eraill wedi’u cymryd i leihau’r posibilrwydd o ymddwyn yn groes i’r cynllun, a bod cydweithwyr o’r tîm TGCh yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Microsoft i geisio dod o hyd i ddatrysiad. Hefyd, ailadroddodd y clod a gafwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg am y ffordd hon o weithio.

13.4      Eglurodd Siwan y byddai asesiad newydd yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a’r newid cyfansoddiadol cysylltiedig. Ychwanegodd fod yr ansicrwydd yn bodoli ar y lefel wleidyddol, ac nid oedd unrhyw bryderon ynghylch gallu’r Comisiwn i wasanaethu Aelodau o’r Senedd a phwyllgorau’r Senedd.

13.5      Eglurodd Dave y byddai’r risgiau sy’n gysylltiedig â chapasiti corfforaethol yn cael eu hadolygu yng ngoleuni blaenoriaethau’r Comisiwn wrth iddynt ddod i’r fei, yn ogystal â chyfyngiadau cyllidebol a’r adolygiad nesaf o gapasiti.

13.6      O ran y risgiau mewn perthynas ag urddas â pharch, nododd y Pwyllgor fod Cod Ymddygiad newydd i Aelodau wedi’i gymeradwyo a chroesawodd y camau i ychwanegu’r egwyddor ynghylch ‘parch’. Nododd Siwan y byddai’r egwyddor hon yn rhan bwysig o’r sesiynau cynefino i Aelodau, sy’n cynnwys cyfle i gwrdd â’r Comisiynydd Safonau, gan ychwanegu bod adolygiad o’r weithdrefn gwyno yn yr arfaeth.

Cam gweithredu: Y tîm clercio i rannu copi o’r Cod Ymddygiad newydd i Aelodau sydd wedi’i gyhoeddi ag aelodau’r Pwyllgor